Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

31.

Arglwydd Dduw,

yr wyt yn gwrando’n astud ar lef ein hymbiliau.

Gad inni gael yn dy Fab

ddiddanwch yn ein tristwch,

sicrwydd yn ein hamheuaeth

a dewrder i fyw.

Cryfha ein ffydd

trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

32.

Atgyfodedig Arglwydd Iesu,

tyrd atom wrth inni gerdded y ffordd unig hon.

Lleddfa flinder ein galar,

llawenha ein calonnau trymion wrth gydgerdded â ni,

a dwg ni yn y diwedd at dy fwrdd nefol. Amen.

33.

O Dduw, nid wyt o’th wirfodd yn peri gofid na chystudd i’th blant.

Edrych yn drugarog ar ddioddefaint y teulu hwn yn eu colled.

Cynnal hwy yn eu poen;

ac i dywyllwch eu galar

dwg oleuni dy gariad.

Gofynnwn hyn trwy Iesu Grist. Amen.

34.

Hollalluog Dduw,

Tad pob trugaredd a rhoddwr pob cysur:

bydd rasol wrth y rhai sy’n galaru,

fel trwy fwrw pob gofal arnat ti,

y cânt brofi diddanwch dy gariad;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

35.

O dywyllwch ein galar

galwn arnat, O Arglwydd.

Rhoddaist E. inni,

a chymeraist ef/hi ymaith.

Tro atom, Arglwydd, a thrugarha wrthym,

a dyro inni’r diddanwch hwnnw na all neb ond ti ei roddi,

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Tudalen 60