Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

Dduw cariadus, galluoga ni i glywed y newyddion da am drechu marwolaeth ac adnewyddu

bywyd: fel, a ninnau’n wynebu dirgelwch yr angau, y cawn gipolwg ar oleuni tragwyddoldeb;

trwy Grist ein Hiachawdwr atgyfodedig.

Amen.

DIWEDDGLO

Iddo ef, sydd â’r gallu ganddo i’ch cadw rhag syrthio,

a’ch gosod yn ddi-fai a gorfoleddus gerbron ei ogoniant,

iddo ef, yr unig Dduw, ein Gwaredwr,

trwy Iesu Grist ein Harglwydd,

y byddo gogoniant a mawrhydi,

gallu ac awdurdod,

cyn yr oesoedd,

ac yn awr, a byth bythoedd. Amen.

III. DERBYN YR ARCH I’R EGLWYS CYN YR ANGLADD

Gellir derbyn yr arch i’r eglwys ar ddechrau’r Gwasanaeth Angladd, neu’n gynharach yn y

dydd, neu ar y diwrnod cyn yr angladd. Gellir gosod Cannwyll y Pasg wrth ben yr arch.

DERBYN YR ARCH

Y mae’r gweinidog yn cyfarfod â’r arch wrth ddrws yr eglwys ac yn dweud

Derbyniwn gorff ein brawd/chwaer E. gan hyderu yn Nuw, rhoddwr bywyd, a gyfododd yr

Arglwydd Iesu o blith y meirw.

Gellir taenellu dŵr ar yr arch, a gellir defnyddio’r geiriau hyn:

Gyda’r dŵr hwn dygwn i gof fedydd E. Megis yr aeth Crist trwy ddyfroedd dyfnion marwolaeth

er ein mwyn, dyged ni felly i gyflawnder bywyd yr atgyfodiad gyda E. a phawb a brynwyd.

Neu

Caniatâ, O Arglwydd, fod i ni a fedyddir i farwolaeth fy Fab, ein Hiachawdwr Iesu Grist,

farwhau’n wastad ein dyheadau drygionus, a chael ein claddu gydag ef; a thrwy’r bedd a

phorth angau fynd ymlaen i’n hatgyfodiad llawen; trwy ei haeddiannau ef, a fu farw ac a

gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn, dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Gellir defnyddio’r brawddegau a ganlyn, neu frawddegau addas eraill o’r Ysgrythur.

Gall y gweinidog ychwanegu ‘Alelwia’ at unrhyw un o’r brawddegau hyn.

Ioan 11.25,26.

Rhufeiniaid 8.38,39.

I Thesaloniaid 4.14,17b,18.

I Timotheus 6.7 ; Job 1.21b.

Galarnad 3.22,23.

Mathew 5.4.

Ioan 3.16.

Tudalen 27