Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

i’th holl wasanaethyddion, y byw a’r meirw,

y cyfodwn eto ar ddyfodiad Crist;

a gofynnwn am i ninnau, yng nghyflawnder yr amser,

gael rhannu â’n brawd/chwaer yn y weledigaeth eglur honno

pan welwn wyneb yn wyneb yr un Crist ein Harglwydd. Amen.

14.

Arglwydd pob peth, moliannwn di

am bawb a roddwyd i orffwys

ac a gyrhaeddodd dir yr addewid lle y gwelir di wyneb yn wyneb.

Dyro inni ras i ddilyn ôl eu traed

fel y dilynasant hwy ôl traed dy Fab.

Diolch iti am bob atgof am y rhai a elwaist atat:

ym mhob atgof

tro ein calonnau oddi wrth y pethau a welir at y pethau nas gwelir,

ac arwain ni nes deuwn i’r orffwysfa dragwyddol

a baratoaist i’th bobl

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

15.

Dad nefol, moliannwn dy enw

am bawb a orffennodd y bywyd hwn

yn dy garu di ac yn ymddiried ynot,

am esiampl eu bywydau,

am y bywyd a’r gras a roddaist ti iddynt,

ac am y tangnefedd y maent yn gorffwyso ynddo.

Molwn di heddiw am dy was/wasanaethferch E.

ac am y cyfan a wnaethost trwyddo/i.

Tyrd i gwrdd â ni yn ein tristwch

a llanw ein calonnau â moliant a diolchgarwch,

er mwyn ein Harglwydd atgyfodedig, Iesu Grist. Amen.

16.

Dad nefol,

diolchwn i ti am iti ein llunio ar dy ddelw dy hun

a rhoddi inni ddoniau corff, meddwl ac ysbryd.

Diolchwn iti yn awr am E.

ac am yr hyn a olygai i bob un ohonom.

Wrth inni anrhydeddu’r coffa amdano/i,

gwna ni’n fwy ymwybodol mai ti yw’r un

y daw oddi wrtho bob rhodd berffaith,

gan gynnwys y rhodd o fywyd tragwyddol trwy Iesu Grist. Amen.

17.

O Dduw ein Tad,

diolchwn iti am lunio pob un ohonom ar dy ddelw dy hun,

a rhoddi inni ddoniau a thalentau i’th wasanaethu di.

Diolchwn iti am E.,

am y blynyddoedd a ranasom ag ef/ â hi,

am y daioni a welsom ynddo/i,

ac am y cariad a dderbyniasom ganddo/i.

Tudalen 56