Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

Plentyn

Yr Hen Destament: II Samuel 12.16-23. Marw mab Dafydd

Salm: 38.9-diwedd

Salm-weddi: Arglwydd, trugarha wrth y sawl sy’n galaru ar hyd y dydd, sydd wedi eu llethu

gan faich o ofid, eu nerth yn pallu, a’u cyfeillion a’u cymdogion wedi pellhau. Gwyddost am

ein holl ocheneidio a dyheu: bydd yn agos atom a dysg ni i obeithio ynot ti; trwy Iesu Grist

ein Harglwydd. Amen.

Apocryffa: Doethineb Solomon: 4.8-11, 13-15. Nid hirhoedledd yw henaint

Cantigl: Cân o’r eiddo Sant Anselm

Efengyl: Luc 12.35-40. Dyfodiad Mab y Dyn

Gweddi.

DIWEDDGLO

Dywed y gweinidog y diweddglo hwn neu ddiweddglo addas arall:

Yr Arglwydd Dduw hollalluog yw ein Tad: y mae’n ein caru ac yn gofalu’n dyner amdanom.

Yr Arglwydd Iesu Grist yw ein Gwaredwr: fe’n prynodd a bydd yn ein hamddiffyn hyd y diwedd.

Y mae’r Arglwydd, yr Ysbryd Glân, yn ein plith: bydd yn ein harwain yn ffordd sanctaidd Duw.

I Dduw Hollalluog, Dad, Mab ac Ysbryd Glân, y byddo’r moliant a’r gogoniant yn awr a hyd

byth.

Amen.

V. AR FORE’R ANGLADD

Bwriedir i’r gwasanaeth hwn fod yn gyfnod byr o gofio beth amser cyn mynd i’r Angladd. Gall

cyfaill, aelod o’r teulu neu weinidog ei arwain.

PARATOAD

Wrth inni gychwyn ar ein taith heddiw, gweddïwn am bresenoldeb Crist, a aeth y ffordd hon

o’n blaen. Arglwydd Iesu, dangosaist inni’r ffordd at y Tad:

Arglwydd, trugarha.

Arglwydd Iesu, y mae dy air yn goleuo ein ffordd:

Crist, trugarha.

Arglwydd Iesu, ti yw’r bugail da sy’n ein harwain i fywyd tragwyddol:

Arglwydd, trugarha.

Y GAIR

Galarnad 3.22-26, 31-33.

GWEDDI

Dad nefol, fe’n gwnaethost nid i dywyllwch a marwolaeth, ond i fyw gyda thi am byth.

Hebot nid oes gennym ddim i obeithio amdano; gyda thi, nid oes gennym ddim i’w ofni.

Llefara wrthym yn awr eiriau dy fywyd tragwyddol. Cyfod ni i oleuni a thangnefedd dy

bresenoldeb, a gosod ogoniant dy gariad o’n blaen; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Tudalen 32