Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

IV. GWYLFA ANGLADD

Gall yr wylfa fod yn rhan o wasanaeth yn yr eglwys cyn yr Angladd, neu gall fod yn wasanaeth

gwahanol. Gall fod yn yr eglwys, yn y cartref, neu mewn man addas arall, megis capel ysbyty.

Gellir hefyd ei defnyddio ar gyfer aelodau o’r teulu neu gyfeillion agos na allant, oherwydd

gwaeledd neu resymau o’r fath, ddod i’r Angladd. Os yw’r wylfa yn rhan o wasanaeth arall,

gellir hepgor y Dod Ynghyd a’r Diweddglo.

Y DOD YNGHYD

Arglwydd, agor ein gwefusau: a’n genau a fynega dy foliant.

Bendigedig wyt ti, Dduw trugaredd a chariad, bugail ac amddiffynnydd dy bobl alarus, eu

dechrau a’u diwedd. Arwain ni i fan lle y mae tangnefedd ac adfywhad; tywys ni at ffynhonnau’r

dyfroedd bywiol; sych ymaith bob deigryn o’n llygaid a dwg ni i’r nefoedd lle nad oes marw

mwyach, na galar nac wylo na phoen yn dy wyddfod di, Dad, Mab ac Ysbryd Glân:

Bendigedig fyddo Duw am byth.

Iesu Grist ddoe a heddiw, y dechrau a’r diwedd, yr Alffa a’r Omega ; iddo ef y perthyn yr holl

amseroedd ac oesoedd; iddo ef y bo’r gogoniant a’r gallu ym mhob oes ac am byth. Amen.

Os cyneuir canhwyllau:

Bydded i oleuni Crist yn cyfodi mewn gogoniant ymlid pob tywyllwch o’n calonnau a’n

meddyliau.

DARLLENIAD NEU DDARLLENIADAU ADDAS

Y mae awgrymiadau yn dilyn:

Sicrwydd a Diddanwch

Yr Hen Destament: Eseia 61.1-3. Cysuro pawb sy’n galaru

Salm: 139

Salm-weddi: Arglwydd, ti sydd wedi ein creu a’n llunio, yr wyt wedi ein chwilio a’n hadnabod,

yr wyt bob amser gyda ni mewn goleuni a thywyllwch: cynorthwya ni i adnabod dy

bresenoldeb yn y bywyd hwn ac, yn y bywyd a ddaw, i barhau i fod gyda thi, lle’r wyt yn fyw

ac yn teyrnasu, yn Dduw am byth. Amen.

Y Testament Newydd: I Pedr 1.3-9. Ganwyd ni o’r newydd i obaith bywiol

Cantigl: Cân Plant Duw

Efengyl: Ioan 14.1-6. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau

Gweddi.

Ffyddlondeb Duw

Yr Hen Destament: Eseia 53.1-10. Y gwas dioddefus

Salm: 116.1-8 (9-17)

Salm-weddi: Arglwydd bywyd, rhodiwn drwy dragwyddoldeb yn dy ŵydd. Arglwydd

marwolaeth, galwn arnat mewn gofid a galar: ac yr wyt ti yn ein clywed a’n hachub. Gwylia

drosom wrth inni alaru am dy was/wasanaethferch, a oedd yn werthfawr yn dy olwg, a chadw

ni’n ffyddlon i’n haddunedau i ti. Amen.

Y Testament Newydd: Rhufeiniaid 8.31-diwedd. Ni all dim ein gwahanu oddi wrth gariad

Crist

Datguddiad 21.1-7. Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd

Cantigl: Cân y Rhai a Gyfiawnhawyd

Efengyl: Ioan 6.35-40(53-58). Bydd pob un y mae’r Tad yn ei roi i mi yn dod ataf fi

Gweddi.

Tudalen 30