Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

6. CÂN PLANT DUW

Y mae Ysbryd y Tad,

a gyfododd Grist Iesu oddi wrth y meirw:

yn rhoddi bywyd i bobl Dduw.

1 Yng Nghrist Iesu y mae cyfraith yr Ysbryd, sy’n rhoi bywyd:

wedi ein rhyddhau o afael cyfraith pechod a marwolaeth.

2 Y mae pawb sy’n cael eu harwain gan Ysbryd Duw yn blant Duw:

oherwydd inni dderbyn yr Ysbryd

yr ydym trwyddo yn llefain, “Abba! Dad!”

3 Y mae’r Ysbryd ei hun yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni:

ein bod yn blant i Dduw.

4 Ac os plant, etifeddion hefyd, etifeddion Duw a chydetifeddion â Christ:

os yn wir yr ydym yn cyfranogi o’i ddioddefaint ef

er mwyn cyfranogi o’i ogoniant hefyd.

5 Nid yw dioddefiadau’r presennol:

i’w cymharu â’r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni.

6 Yn wir, y mae’r greadigaeth yn disgwyl yn daer:

am i blant Duw gael eu datguddio.

Rhufeiniaid 8.2,14,15b-19

Gogoniant i’r Tad ac i’r Mab ac i’r Ysbryd Glân:

megis yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,

ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

7. CÂN O FFYDD

Cyfododd Duw oddi wrth y meirw Grist:

yr Oen di-fai a di-nam.

1 Bendigedig fyddo Duw a Thad:

ein Harglwydd Iesu Grist!

2 O’i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o’r newydd i obaith bywiol:

trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw,

3 I etifeddiaeth na ellir na’i difrodi, na’i difwyno, na’i difa:

Saif hon ynghadw yn y nefoedd i chwi,

4 Chwi sydd trwy ffydd dan warchod gallu Duw

hyd nes y daw iachawdwriaeth:

yr iachawdwriaeth sydd yn barod i’w datguddio yn yr amser diwethaf.

5 Nid â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid:

oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych,

6 Ond â gwaed gwerthfawr:

Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist.

7 Trwyddo ef yr ydych yn credu yn Nuw:

yr hwn a’i cyfododd ef oddi wrth y meirw ac a roes iddo ogoniant,

fel y byddai eich ffydd a’ch gobaith chwi yn Nuw.

I Pedr 1.3-5,18,19,21

Gogoniant i’r Tad ac i’r Mab ac i’r Ysbryd Glân:

megis yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,

ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

Tudalen 80