Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

Bydded i Dduw yn ei gariad a’i drugaredd diderfyn

ddwyn yr Eglwys gyfan,

y byw a’r meirw yn yr Arglwydd Iesu,

i atgyfodiad llawen

a chyflawniad ei deyrnas dragwyddol. Amen.

58.

Trown at Grist Iesu mewn hyder a ffydd

yng ngrym ei groes a’i atgyfodiad.

Arglwydd atgyfodedig, patrwm ein bywyd am byth:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

Addewid a delwedd yr hyn a fyddwn:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

Fab Duw a ddaeth i ddinistrio pechod ac angau:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

Air Duw a’n hachubaist rhag ofn marwolaeth:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

Arglwydd croeshoeliedig,

a wrthodwyd yn dy farwolaeth, a gyfodwyd mewn gogoniant:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

Arglwydd Iesu, fugail tyner sy’n rhoddi gorffwystra i’n heneidiau,

dyro i E. dangnefedd am byth:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

Arglwydd Iesu, yr wyt yn bendithio’r rhai sy’n galaru a’r rhai sydd mewn poen.

Bendithia deulu a chyfeillion E. a ymgynullodd o’i g/chwmpas heddiw:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

59.

Y mae’r Arglwydd Iesu yn caru ei bobl, ac ef yw ein hunig obaith diogel.

Gofynnwn iddo ddyfnhau ein ffydd a’n cynnal yn yr awr dywyll hon.

Daethost yn blentyn bach er ein mwyn a rhannu ein bywyd meidrol.

Arnat ti y gweddïwn: bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.

Cynyddaist mewn doethineb, mewn oedran ac mewn gras,

a dysgaist ufudd-dod trwy ddioddef.

Arnat ti y gweddïwn: bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.

Croesewaist blant ac addo iddynt dy deyrnas:

Arnat ti y gweddïwn: bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd

Cysuraist rai a oedd yn galaru o golli plant a chyfeillion.

Arnat ti y gweddïwn: bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.

Cymeraist arnat dy hun ddioddefaint a marwolaeth pawb ohonom.

Arnat ti y gweddïwn: bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.

Addewaist gyfodi’r sawl sy’n credu ynot,

fel y’th gyfodwyd di mewn gogoniant gan y Tad.

Arnat ti y gweddïwn: bendithia ni a chadw ni, O Arglwydd.

Tudalen 67