Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

PAN NA BO’R CORFF YN BRESENNOL

40.

Dad pawb oll,

gweddïwn arnat dros E., a garwn ond na welwn mwyach.

Dyro iddo/i dy dangnefedd;

llewyrched goleuni gwastadol arno/i;

ac yn dy ddoethineb grasol a’th allu anfeidrol

gweithia ynddo/i bwrpas daionus dy berffaith ewyllys;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

WEDI HUNANLADDIAD

41.

Dduw a Thad tragwyddol,

edrych yn drugarog ar y rhai sy’n cofio E. ger dy fron.

I E. y mae treialon y byd hwn drosodd

ac aeth angau heibio.

Derbyn gan bob un ohonom

yr hyn a deimlwn pan fo geiriau’n methu;

gwared ni rhag anobaith

a dyro inni nerth i wynebu’r dyddiau sy’n dod

yn ffydd Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

42.

Dduw ein nerth a’n hiachawdwriaeth,

nid wyt yn cefnu arnom nac yn y bywyd hwn

nac yn yr angau.

Clyw ein gweddïau dros bawb sydd mewn anobaith,

eu dyddiau’n llawn tywyllwch

a’u dyfodol yn ddu.

Adnewydda hwy â’th nerth cynhaliol

oherwydd yr ydym yn credu nad oes dim yn y cread crwn

a all ein gwahanu oddi wrth dy gariad

yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Amen.

WEDI GWAELEDD HIR

43.

Dduw ein hachubiaeth,

gelwaist ein brawd/chwaer E.

i’th wasanaethu mewn gwendid a phoen,

a rhoi iddo/i y gras o rannu croes dy Fab.

Gwobrwya ei h/amynedd a’i dd/dyfalbarhad,

a dyro iddo/i gyflawnder buddugoliaeth Crist.

Gofynnwn hyn trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

Tudalen 62