Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

Mewn amlosgfa, os yw’r Traddodiant i’w ddweud:

Yr ydym wedi ymddiried E. i drugaredd Duw,

ac yr ydym yn awr yn traddodi ei g/chorff i’w amlosgi:

mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol

trwy ein Harglwydd Iesu Grist,

a newidia ein cyrff eiddil ni

i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef,

a fu farw, a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn.

Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.

Mewn amlosgfa, os yw’r Traddodiant i ddilyn wrth Gladdu Llwch wedi Amlosgiad:

Yr ydym wedi ymddiried E. i drugaredd Duw,

ac yn awr, mewn paratoad at ei g/chladdedigaeth,

yr ydym yn rhoddi ei g/chorff i’w amlosgi:

gan ddisgwyl cyflawnder yr atgyfodiad

pan gasgl Crist ynghyd ei holl saint

i deyrnasu gydag ef mewn gogoniant am byth. Amen.

YR ANFON ALLAN

Duw fo yn fy mhen

a’m hymresymiad;

Duw fo yn fy nhrem,

ac yn f’edrychiad;

Duw fo yn fy ngair

ac yn fy siarad;

Duw fo yn fy mron

ac yn fy nirnad;

Duw ar ben fy nhaith,

ar f’ymadawiad. Amen.

Bendithion

Bydded i Grist y bugail da eich lapio yn ei gariad,

eich llenwi a thangnefedd

a’ch tywys mewn gobaith gydol eich dyddiau;

a bendith Duw hollalluog,

y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,

a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.

Rhodded Duw ichwi ei ddiddanwch a’i dangnefedd,

ei oleuni a’i lawenydd, yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw;

a bendith Duw hollalluog,

y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,

a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.

Bydded i gariad Duw

a thangnefedd yr Arglwydd Iesu Grist

eich bendithio a’ch cysuro chwi, a phawb a adnabu ac a garodd E.,

yn awr a hyd byth. Amen.

Tudalen 44