Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

BENDITHION A DIWEDDIADAU ERAILL

71.

Ac yn awr iddo ef

sydd â’r gallu ganddo i’n cadw rhag syrthio,

a’n codi o ddyffryn tywyll anobaith

i fynydd disglair gobaith,

o ganol nos trallod

i wawrddydd llawenydd,

iddo ef y bo’r gallu a’r awdurdod yn oes oesoedd. Amen.

72.

Duw fo yn fy mhen

a’m hymresymiad;

Duw fo yn fy nhrem,

ac yn f’edrychiad;

Duw fo yn fy ngair

ac yn fy siarad;

Duw fo yn fy mron

ac yn fy nirnad;

Duw ar ben fy nhaith,

ar f’ymadawiad. Amen.

73.

Bydded i Grist y bugail da eich lapio yn ei gariad,

eich llenwi a thangnefedd,

a’ch tywys mewn gobaith gydol eich dyddiau;

a bendith Duw hollalluog,

y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân,

a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.

74.

Bydded i gariad Duw a thangnefedd ein Harglwydd Iesu Grist

eich cysuro a sychu ymaith yn dyner bob deigryn o’ch llygaid.

Bendithied yr Hollalluog Dduw chwi,

Dad, Mab ac Ysbryd Glân. Amen.

75.

Bydded i’r Duw tragwyddol

ein bendithio a’n cadw,

amddiffyn ein cyrff, achub ein heneidiau

a’n dwyn yn ddiogel i’r wlad nefol,

ein cartref tragwyddol,

lle y mae’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân yn teyrnasu,

yn un Duw byth bythoedd. Amen.

Tudalen 72