Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

8. CÂN Y RHAI A BRYNWYD

I’n Duw ni y perthyn y waredigaeth:

fe’n tywys at ffynhonnau’r dyfroedd byw.

1 Wele dyrfa fawr:

na allai neb ei rhifo,

2 O bob cenedl a’r holl lwythau a phobloedd ac ieithoedd:

yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen,

3 Wedi eu gwisgo â mentyll gwyn, a phalmwydd yn eu dwylo:

Yr oeddent yn gweiddi â llais uchel,

4 “I’n Duw ni, sy’n eistedd ar yr orsedd, ac i’r Oen:

y perthyn y waredigaeth!”

5 Dyma’r rhai sy’n dod allan o’r gorthrymder mawr:

y maent wedi golchi eu mentyll a’u cannu yng ngwaed yr Oen.

6 Am hynny, y maent o flaen gorsedd Duw:

ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei deml,

7 A bydd yr hwn sy’n eistedd ar yr orsedd:

yn lloches iddynt.

8 Ni newynant mwy ac ni sychedant mwy:

ni ddaw ar eu gwarthaf na’r haul na dim gwres,

9 Oherwydd bydd yr Oen sydd yng nghanol yr orsedd:

yn eu bugeilio hwy,

10 Ac yn eu harwain i ffynhonnau dyfroedd bywyd:

a bydd Duw yn sychu pob deigryn o’u llygaid hwy.

Datguddiad 7.9,10,14b-17

I’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen:

y bo’r mawl a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r nerth

byth bythoedd! Amen

9. CÂN AM YR OEN

Llawenhawn a gorfoleddwn:

a rhoddwn ogoniant a gwrogaeth i’n Duw.

1 Eiddo ein Duw ni y waredigaeth a’r gogoniant a’r gallu:

oherwydd gwir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef,

2 Molwch ein Duw ni, chwi ei holl weision ef:

a’r rhai sy’n ei ofni ef, yn fach a mawr.

3 Y mae’r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog, wedi dechrau teyrnasu:

Llawenhawn a gorfoleddwn, a rhown iddo’r gogoniant,

4 Oherwydd daeth dydd priodas yr Oen:

ac ymbaratôdd ei briodferch ef.

5 Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd:

i wledd briodas yr Oen.

Datguddiad 19.1b,2b,5b,6b,7,9b

I’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen:

y bo’r mawl a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r nerth

byth bythoedd! Amen

Tudalen 81