Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

5.

Drugarocaf Dduw,

y mae dy ddoethineb uwchlaw pob deall,

amgylchyna deulu E. â’th gariad,

fel na lether mohonynt gan eu colled,

ond y caffont hyder yn dy drugaredd,

a nerth i wynebu’r dyddiau sy’n dod.

Gofynnwn hyn trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

6.

Dduw gobaith,

deuwn atat mewn braw a galar a dryswch calon.

Cymorth ni i ddod o hyd i dangnefedd

mewn gwybodaeth o’th drugaredd cariadus at bawb o’th blant,

a dyro inni oleuni i’n tywys o dywyllwch

i sicrwydd dy gariad

na all dim ein gwahanu oddi wrtho. Amen.

7.

O Dduw, nid wyt o’th wirfodd yn peri gofid na chystudd i’th blant.

Edrych yn drugarog ar ddioddefaint y teulu hwn yn eu colled.

Cynnal hwy yn eu poen;

ac i dywyllwch eu galar

dwg oleuni dy gariad.

Gofynnwn hyn trwy Iesu Grist. Amen.

8.

Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist:

Tad pob trugaredd a Duw pob cysur.

Y mae’r Arglwydd yn agos at bawb sy’n galw arno:

at bawb sy’n galw arno mewn gwirionedd.

Fel y mae Tad yn tosturio wrth ei blant:

felly y tosturia’r Arglwydd wrth y rhai sy’n ei ofni.

Fel y cysura mam ei phlentyn:

felly y rhydd yr Arglwydd gysur.

Yna cymerodd Iesu y plant yn ei freichiau:

rhoddodd ei ddwylo ar bob un ohonynt a’u bendithio.

DROS Y RHIENI

9.

Dad nefol,

ti yn unig a all iacháu calonnau briw;

ti yn unig a all sychu ymaith y dagrau sy’n cronni ynom;

ti yn unig a all roi inni y tangnefedd y mae arnom ei angen;

ti yn unig a all ein nerthu i ddyfalbarhau.

Gofynnwn iti fod yn agos at y rhai

y trowyd eu llawenydd yn dristwch.

Sicrha hwy nad oes dim yn wastraff nac yn anghyflawn gyda thi,

a chynnal hwy â’th gariad tyner.

O’n cynnal gan dy nerth,

dyfnhaer ein cariad at ein gilydd

trwy adnabyddiaeth o’th gariad at bob un ohonom. Amen.

Tudalen 38