Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

10. CAN O’R EIDDO ANSELM SANT

Casgla dy blant ynghyd, O Dduw:

fel y casgl iâr ei chywion i’w hamddiffyn.

1 O Iesu, cesgli fel mam dy bobl atat:

yr wyt yn dyner â ni, fel mam gyda’i phlant.

2 Wyli yn aml dros ein pechodau a’n balchder:

tynni ni’n dyner oddi wrth atgasedd a barn.

3 Diddeni ni mewn galar a rhwymo ein clwyfau:

gofeli amdanom mewn afiechyd a’n porthi â llaeth pur.

4 O Iesu, trwy dy farw fe’n genir ni i fywyd newydd:

trwy dy boen a’th ddioddefaint fe ddeuwn i lawenydd.

5 Try anobaith yn obaith trwy dy ddaioni mwyn:

trwy dy dynerwch fe gawn ddiddanwch mewn ofn.

6 Dyry dy gynhesrwydd fywyd i’r meirw:

gwna dy gyffyrddiad bechaduriaid yn uniawn.

7 O Arglwydd Iesu, yn dy drugaredd iachâ ni:

yn dy gariad a’th dynerwch ail-grea ni.

8 Yn dy dosturi dyro ras a maddeuant:

paratoed dy gariad ni at brydferthwch y nef.

Anselm o Gaer-gaint

Gogoniant i’r Tad ac i’r Mab ac i’r Ysbryd Glân:

megis yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,

ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

Tudalen 82