Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

X. GWASANAETH COFFA

AMLINELLIAD O’R DREFN AR GYFER GWASANAETH COFFA

Y DOD YNGHYD

1. Y mae’r gweinidog yn croesawu’r bobl ac yn cyflwyno’r gwasanaeth.

2. Gellir defnyddio brawddegau o’r Ysgrythur.

3. Gellir dweud y Colect yma neu yn ystod y Gweddïau.

DARLLENIADAU A PHREGETH

4. Defnyddir darlleniad neu ddarlleniadau o’r Beibl.

5. Gall salmau neu emynau ddilyn y darlleniadau.

6. Traddodir Pregeth.

7. Gellir defnyddio caneuon a darlleniadau eraill, a gellir rhoi teyrngedau.

GWEDDÏAU

8. Fel rheol, bydd y gweddïau yn dilyn y drefn hon:

Diolchgarwch am fywyd yr ymadawedig;

Gweddi dros y rhai sy’n galaru;

Gweddi am barodrwydd i fyw yng ngoleuni tragwyddoldeb.

9. Gellir canu emyn.

CYFLWYNO A FFARWELIO

10. Pan fo’r amgylchiadau’n briodol, cyflwynir mewn geiriau a awdurdodwyd y sawl a fu

farw i Dduw.

YR ANFON ALLAN

11. Dywedir Gweddi’r Arglwydd.

12. Gall y gwasanaeth ddiweddu gyda bendith.

Os digwydd Gwasanaeth Coffa oddi mewn i weinyddiad o’r Cymun Bendigaid, dilynir yr

adrannau priodol i’r rhan honno o’r gwasanaeth.

NODIADAU

Cynlluniwyd y canllawiau hyn i’w defnyddio yn yr eglwys rai wythnosau ar ôl y gwasanaeth

Angladd. Darperir isod un ffordd o ychwanegu at y Drefn.

Os cynhelir y gwasanaeth coffa yr un dydd â’r Angladd, neu’n fuan iawn wedyn, dylid

defnyddio’r gwasanaeth Angladd, heb y traddodiant.

Dylid sicrhau ei bod yn glir pwy sy’n llywyddu gydol y gwasanaeth, pwy sy’n cyflwyno’r

gwasanaeth ac yn ei ddiweddu, ac nad yw nifer y siaradwyr, yr eitemau cerddorol a’r

darlleniadau heb fod o’r Beibl yn rhwystro’r gwasanaeth rhag canolbwyntio ar glywed gair

Duw, gweddïo a diolch.

Tudalen 46