Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

8 Ac yn awr rwy’n darostwng fy nghalon:

gan ddeisyf dy ffyddlondeb.

9 Pechadur wyf, O Arglwydd, pechadur:

ac yr wyf yn cydnabod fy nhroseddau.

10 Er mor annheilwng wyf:

fe’m hachubi yn ôl dy drugaredd fawr.

11 Oherwydd y mae holl lu’r nefoedd yn dy foliannu di:

ac eiddot ti yw’r gogoniant am byth.

Manasse 1a,2,4,6,7,8a,8ch,9,10a,10c,11,12,14b,15b

Gogoniant i’r Tad ac i’r Mab ac i’r Ysbryd Glân:

megis yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,

ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

3.JUSTORUM ANIMAE

Cafodd Duw yr uniawn yn deilwng:

a digoll yw eu gobaith am anfarwoldeb.

1 Y mae eneidiau’r cyfiawn yn llaw Duw:

ac ni ddaw poenedigaeth byth i’w rhan.

2 Yn llygaid y rhai ynfyd, y maent fel pe baent wedi marw:

ond y maent mewn hedd.

3 Oherwydd er i gosb ddod arnynt yng ngolwg dynion:

digoll yw eu gobaith am anfarwoldeb;

4 Ac er eu disgyblu ychydig, mawr fydd eu hennill:

am fod Duw wedi eu profi

a’u cael yn deilwng ohono ef ei hun.

5 Fel aur mewn tawddlestr y profodd hwy:

ac fel poethoffrwm yr aberth y derbyniodd hwy.

6 Pan ddaw Duw i ymweld â hwy cyneuant yn wenfflam:

fel gwreichion mewn sofl fe redant drwy’r byd.

7 Cânt lywodraethu ar genhedloedd a rheoli ar bobloedd:

a’r Arglwydd fydd eu brenin am byth.

8 Bydd y rhai sy’n ymddiried ynddo ef yn deall y gwir:

a’r ffyddloniaid yn gweini arno mewn cariad,

9 Oherwydd gras a thrugaredd:

yw rhan ei etholedigion.

Doethineb Solomon 3.1,2a,3b-9

Gogoniant i’r Tad ac i’r Mab ac i’r Ysbryd Glân:

megis yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,

ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

Tudalen 78