Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

GWEDDÏAU WRTH DDYFOD YNGHYD

1.

O Dduw ein nodded a’n nerth,

yr wyt yn agos atom yn ein trallod;

tyrd i gwrdd â ni yn ein galar a dyrchafa ein llygaid

at dangnefedd a goleuni dy ofal gwastadol drosom.

Cynorthwya ni felly i glywed geiriau dy ras

fel y diddyma dy gariad ein hofn,

yr esmwytha dy bresenoldeb ein hunigrwydd

ac yr adnewydda dy addewidion ein gobaith

yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

2.

Dad grasol,

cynorthwya ni

mewn tywyllwch a goleuni,

mewn trallod a llawenydd

i ymddiried yn dy gariad,

i wasanaethu dy bwrpas

ac i foliannu dy enw;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

3.

Dad nefol,

fe’n gwnaethost nid i dywyllwch a marwolaeth,

ond i fyw gyda thi am byth.

Hebot nid oes gennym ddim i obeithio amdano;

gyda thi, nid oes gennym ddim i’w ofni.

Llefara wrthym yn awr eiriau dy fywyd tragwyddol.

Cyfod ni o boen meddwl ac euogrwydd

i oleuni a thangnefedd dy bresenoldeb,

a gosod ogoniant dy gariad o’n blaen;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

GWEDDÏAU O EDIFEIRWCH

Kyrïau

4.

Cofia, Arglwydd, dy drugaredd a’th ffyddlondeb,

oherwydd y maent erioed.

Arglwydd, trugarha. (Arglwydd, trugarha.)

Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na’m gwrthryfel,

ond yn dy gariad cofia fi,

er mwyn dy ddaioni, O Arglwydd.

Crist, trugarha. (Crist, trugarha.)

Cadw fi a gwared fi;

na ddoed cywilydd arnaf, oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu.

Arglwydd, trugarha. (Arglwydd, trugarha.)

Tudalen 53