Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

23.

Arglwydd pob peth, diolchwn iti

am dy waith yn y greadigaeth,

am feithrin bywyd yn y groth,

am dy gariad hyd yn oed yn yr angau.

Diolch iti am fywyd dy blentyn hwn E.,

a roddaist i ni ac a gymeraist atat dy hun.

Diolch iti am fod breichiau dy gariad

yn cofleidio E. a ninnau yn dy deulu.

Diolch iti am dy bresenoldeb yn ein galar

a’th nerth wrth i’n teulu fynd yn hŷn.

Cymer ein tristwch a llanw ni â’th Ysbryd

i’th wasanaethu ar y ddaear ac i ymuno â’th saint mewn gogoniant;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

CYFLWYNO A FFARWELIO

1.

O Dduw, ein creawdwr a’n prynwr,

trwy dy allu fe orchfygodd Crist angau

a dychwelyd atat mewn gogoniant.

Mewn hyder yn dy fuddugoliaeth

a chan hawlio dy addewidion,

yr ydym yn ymddiried E. i’th ofal

yn enw Iesu ein Harglwydd,

sydd, er iddo farw, yn awr yn fyw

ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,

yn un Duw yn awr ac am byth. Amen.

2. PLENTYN HŶN

I’th ddwylo di, Arglwydd,

ein creawdwr ffyddlon a’n prynwr cariadus,

yr ydym yn cyflwyno dy blentyn E.,

canys yr eiddot ti ydyw yn yr angau fel mewn bywyd.

Yn dy fawr drugaredd

cymer ef/hi yn dy freichiau

a chyflawna ynddo/i bwrpas dy gariad;

fel, ac yntau/a hithau’n llawenhau yng ngoleuni ac adfywiad dy bresenoldeb,

y caiff fwynhau’r bywyd hwnnw a baratoaist

i bawb sy’n dy garu,

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

3. PLENTYN IEUANC

Dad nefol,

y cymerodd dy Fab, ein Gwaredwr

blant bychain yn ei freichiau a’u bendithio:

derbyn, gweddïwn arnat, dy blentyn E.

yn dy gariad a’th ofal di-feth;

cysura bawb a’i carodd ar y ddaear,

a dwg ni oll i’th deyrnas dragwyddol;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Tudalen 42