Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

DIWEDDGLO

Defnyddia’r gweinidog un neu ragor o’r gweddïau hyn:

Bu farw E. yn nhangnefedd Crist. Wrth inni adael ei g/chorff yma, ymddiriedwn ef/hi, mewn

gobaith a ffydd yn y bywyd tragwyddol, i gariad a thrugaredd ein Tad, ac amgylchynwn ef/hi

â’n cariad a’n gweddïau.

(Yn ei f/ bedydd, fe’i gwnaed trwy fabwysiad yn blentyn Duw.)

(Yn y Cymun, fe’i cynhaliwyd ac fe’i porthwyd.

Y mae Duw yn awr yn ei g/chroesawu at ei fwrdd yn y nefoedd i rannu bywyd tragwyddol â’i

holl saint.)

Dduw pob diddanwch, cyffrowyd dy Fab Iesu Grist hyd at ddagrau wrth fedd Lasarus ei ffrind.

Edrych yn drugarog ar dy blant yn eu colled; dyro i galonnau gofidus oleuni gobaith a chryfha

ynom ddawn ffydd yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Arglwydd Dduw hollalluog yw ein Tad: y mae’n ein caru ac yn gofalu’n dyner amdanom.

Yr Arglwydd Iesu Grist yw ein Gwaredwr: fe’n prynodd a bydd yn ein hamddiffyn hyd y diwedd.

Y mae’r Arglwydd, yr Ysbryd Glân, yn ein plith: bydd yn ein harwain yn ffordd sanctaidd Duw.

I Dduw Hollalluog, Dad, Mab ac Ysbryd Glân: y byddo’r moliant a’r gogoniant yn awr a hyd

byth. Amen.

Gall y gwasanaeth ddiweddu gyda chyfnod o ddistawrwydd.

Tudalen 29