Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

I’w defnyddio ar ôl Salm 120:

Dduw pob trugaredd,

yr ydym mewn helbul ac yn galw arnat.

Gwared ni rhag celwydd a thwyll

a phoen ymosodiad y gelyn,

a dyro inni dangnefedd,

tangnefedd Crist a enillwyd ar y groes. Amen.

I’w defnyddio ar ôl Salm 121:

Arglwydd, ffyddlon,

gwylia drosom a chadw ni’n ddiogel.

Bydd gyda ni yn ein mynd a’n dod,

yn awr a byth. Amen.

I’w defnyddio ar ôl Salm 130:

Arglwydd trugaredd ac iachawdwriaeth,

achub ni, gweddïwn arnat, o ddyfnderoedd pechod a marwolaeth;

maddau inni bob camwedd,

a dyro inni ras i sefyll yn dy ŵydd

i’th wasanaethu yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

I’w defnyddio ar ôl Salm 138:

Arglwydd, na chefna arnom yn ein trallod.

Cadw ni’n ddiogel ym mhob gofid,

a chwblha dy bwrpas ar ein cyfer

trwy dy gariad a’th ffyddlondeb diwyro

yn Iesu Grist ein Hiachawdwr. Amen.

I’w defnyddio ar ôl Salm 139:

Arglwydd, yr wyt wedi ein creu a’n llunio,

yr wyt wedi ein hadnabod a’n chwilio,

yr wyt yn aros gyda ni trwy oleuni a thywyllwch:

cynorthwya ni i adnabod dy bresenoldeb yn y bywyd hwn

ac, yn y byd a ddaw, i fod eto gyda thi,

lle’r wyt yn fyw ac yn teyrnasu

yn Dduw byth bythoedd. Amen.

Tudalen 75