Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

15.

Dduw grasol,

dolchwn iti am y cariad y cenhedlwyd y baban hwn (E.) ynddo,

ac am gariad y cartref yr oedd i fod i gael ei g/eni iddo.

Gweddïwn y bydd i gariad ei rh/rieni at ei gilydd

dyfu a dyfnhau.

Dyro inni ras i wrando ar ein gilydd

yn amyneddgar a deallus,

ac i gynorthwyo ein gilydd yn y dyddiau sydd i ddod. Amen.

FFARWELIO

16.

Dad nefol,

y mae E. ac E. wedi rhoi i’w baban yr enw E.

– enw a drysorir yn eu calonnau am byth.

Ond ti a’i lluniodd ef/hi yn y groth;

yr oeddit yn ei h/adnabod wrth ei h/enw cyn dechrau amser.

Cyflwynwn E. yn awr i’th ofal cariadus a thyner.

Am gyfnod a oedd mor fyr

daeth ag addewid o lawenydd i lawer.

Lapia ef/hi yn awr yn y bywyd tragwyddol,

yn enw ein Hiachawdwr atgyfodedig,

a anwyd ac a fu farw,

ac sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân am byth. Amen.

GWEDDÏAU Y GELLIR EU CYMERADWYO I’W DEFNYDDIO’N BERSONOL GAN Y

RHIENI

17.

Dduw cariad a bywyd,

rhoddaist inni E. yn fab/merch i ti.

Sicrha ni yn awr,

er iddo/i fynd o’n golwg ni,

nad aeth o’th olwg nac o’th ofal di.

Tyrd yn agos atom yn ein tristwch,

dwg o’n galar fendith,

a chynorthwya ni yn ein dagrau a’n poen

i’th adnabod di yn sefyll gyda ni

ac i brofi dy gariad a’th iachâd;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

18.

Dduw pob dirgelwch,

y mae dy ffyrdd uwchlaw pob deall,

tywys ni, sy’n galaru am y farwolaeth annhymig hon,

i ffydd newydd, a dyfnach ffydd, yn dy gariad,

a ddaeth â’th unig Fab Iesu

trwy farwolaeth i fywyd yr atgyfodiad.

Gweddïwn yn enw Iesu. Amen.

Tudalen 40