Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

48.

Hollalluog Dduw, gweddïwn y bydd inni,

wedi ein calonogi gan esiampl dy saint,

redeg heb ddiffygio yr yrfa a osodwyd o’n blaen,

gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ein ffydd;

fel yr ymunom yn y diwedd â’r rhai a garwn

yn dy bresenoldeb di lle y mae cyflawnder llawenydd;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

49.

Hollalluog Dduw,

amgylchynaist ni â chwmwl mawr o dystion.

Megis y nerthaist hwy,

ysbrydola ni i fwrw o’r neilltu bob rhwystr

a’r pechod sy’n ein maglu mor rhwydd.

Megis y cynhaliaist hwy,

cadw ni i redeg yn y ras sydd o’n blaen,

a’n golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ein ffydd.

Clyw ni wrth inni offrymu gyda hwy

yn nerth yr Ysbryd tragwyddol

ein cân ddiddiwedd o foliant,

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

50.

O Dad,

dy Fab yw ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol

pawb a’i dilyno.

Pan demtir ni i droi ymaith o’th ffordd,

dyro inni ufudd-dod Crist, ein brawd.

Pan staenir ein cydwybod gan bechod,

iachâ ni ag aberth Crist, ein hoffeiriad.

Pan fyddwn yn ofni marw, ac yn ofni marw o’r rhai a garwn,

nertha ni o wybod i Grist fynd o’n blaen

a dyfod i’th wyddfod sanctaidd,

wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd,

lle y mae’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,

yn un Duw yn awr a byth. Amen.

51.

Dduw tragwyddol,

Y dywedodd dy Fab Iesu Grist,

“Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu eich calon”

ac “Nac ofnwch”,

tynn ymaith oddi wrthym ofn marwolaeth;

dwg ni i’r lle yr aeth ef i’w baratoi inni;

a dyro inni ei dangnefedd am byth. Amen.

Tudalen 64