Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

Yr ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod â’r rhai a

hunodd drwy Iesu. Felly byddwn gyda’r Arglwydd yn barhaus. Calonogwch eich gilydd,

felly, â’r geiriau hyn.

(I Thesaloniaid 4.14, 17b,18)

Ni ddaethom â dim i’r byd, ac felly hefyd ni allwn fynd â dim allan ohono. Yr Arglwydd a

roddodd, a’r Arglwydd a ddygodd ymaith. Bendigedig fyddo enw’r Arglwydd.

(I Timotheus 6.7, Job 1.21b)

Mewn gweinyddiad o’r Cymun Bendigaid:

Dywedodd Iesu, “Y mae gan y sawl sy’n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd

tragwyddol, a byddaf fi’n ei atgyfodi yn y dydd olaf”. (Alelwia !) (Ioan 6.54)

RHAI TESTUNAU Y GALL Y GWEINIDOG EU DEFNYDDIO

DERBYN YR ARCH

Derbyniwn gorff ein brawd/chwaer E. gyda hyder yn Nuw, rhoddwr bywyd, a gyfododd yr

Arglwydd Iesu o blith y meirw.

TAENELLU DŴR AR YR ARCH

Â’r dŵr hwn cofiwn fedydd E. Megis yr aeth Crist trwy ddyfroedd dyfnion marwolaeth er ein

mwyn, dyged ni felly i gyflawnder bywyd yr atgyfodiad gyda E. a phawb a brynwyd.

Neu

Caniatâ, O Arglwydd, fod i ni a fedyddir i farwolaeth fy Fab, ein Hiachawdwr Iesu Grist,

farwhau’n wastad ein dyheadau drygionus, a chael ein claddu gydag ef; a thrwy’r bedd a

phorth angau fynd ymlaen i’n hatgyfodiad llawen; trwy ei haeddiannau ef, a fu farw ac a

gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn, dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

GOSOD GORCHUDD DROS YR ARCH

Yr ydym eisoes yn blant Duw, ond ni ddatguddiwyd eto beth a fyddwn. Eto fe wyddom pan

ymddengys Crist y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weled fel y mae.

Neu

Ar Fynydd Seion fe symuda Duw y gorchudd o alar sy dros yr holl genhedloedd. Fe ddinistria

angau am byth, a sychu ymaith y dagrau oddi ar bob wyneb.

GOSOD BEIBL AR YR ARCH

O Arglwydd Iesu Grist, dwg dy air bywiol ac anfarwol ni i enedigaeth newydd. Hysbyswyd yn

y Beibl dy addewidion tragwyddol i ni ac i E.

GOSOD CROES AR YR ARCH

O Arglwydd Iesu Grist, o gariad at E. ac at bob un ohonom dygaist ein pechodau ar y groes.

BENDITHIO BEDD

O Dduw, y gosodwyd dy Fab Iesu Grist mewn bedd: bendithia, gweddïwn arnat, y bedd hwn

i fod yn lle y gall corff E. dy was/wasanaethferch orffwyso mewn tangnefedd, trwy dy Fab

sy’n atgyfodiad ac yn fywyd, a fu farw ac sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi yn awr a hyd byth.

Amen.

Tudalen 34