Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

Dyro inni yn awr y nerth a’r dewrder

i’w g/adael yn dy ofal di,

yn llawn hyder yn dy addewid o fywyd tragwyddol

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

18.

Dduw a Thad tragwyddol,

molwn di am iti lunio pobl i rannu bywyd â’i gilydd

ac i adlewyrchu dy ogoniant yn y byd.

Diolchwn iti yn awr am E.

am y cyfan a welsom o’th ddaioni di yn ei f/bywyd

ac am y cyfan a olygai i bob un ohonom.

Wrth i ninnau deithio at farwolaeth

bydded inni wneud hynny yng nghwmni Iesu,

a ddaeth i rannu ein bywyd

fel y rhannem ninnau yn y bywyd tragwyddol.

Iddo ef, gyda thi a’r Ysbryd Glân,

y bo’r gogoniant

yn oes oesoedd. Amen.

19.

Arglwydd Dduw, creawdwr pob peth,

gwnaethost ni yn greaduriaid y ddaear hon,

ond addewaist inni hefyd ran yn y bywyd tragwyddol:

derbyn yn awr ein diolch a’n moliant

am fod dy blentyn, ein brawd/chwaer, E.,

yr ydym yn ei g/chyflwyno heddiw i’th ddwylo,

yn cyfranogi gyda’th saint yn llawenydd y nefoedd,

lle nad oes na galar na phoen

ond bywyd hyd byth. Alelwia! Amen.

20.

Hollalluog Dduw,

yr wyt yn caru pob peth a wnaethost

ac yn ein barnu â thrugaredd a chyfiawnder diderfyn.

Llawenhawn yn dy addewidion o faddeuant

a llawenydd a thangnefedd i bawb sy’n dy garu.

Yn dy drugaredd tro dywyllwch marwolaeth

yn wawr bywyd newydd

a galar y gwahanu yn llawenydd y nefoedd;

trwy ein Hiachawdwr Iesu Grist,

a fu farw ac a gyfododd drachefn ac sy’n byw byth mwy. Amen.

21.

Hollalluog Dduw,

deuwn atat ti, y barnwr goruchaf,

ac at Iesu, cyfryngwr y cyfamod newydd,

ac at ysbrydoedd y cyfiawn a berffeithiwyd;

diolchwn iti am roddi inni deyrnas ddi-sigl

ac addolwn di gyda pharchedig ofn,

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Tudalen 57