Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

19.

Dduw’r trugaredd di-feth,

yn dy gariad creadigol a’th dynerwch rhoddaist inni E.,

a oedd mor llawn gobaith am y dyfodol.

Ti yw ffynhonnell bywyd pob un ohonom,

a nerth ein holl ddyddiau.

Fe’n gwnaethost nid i dywyllwch a marwolaeth,

ond i’th weld wyneb yn wyneb

ac i fwynhau cyflawnder bywyd.

Cynorthwyo ni i ddiddanu y naill y llall

â’r diddanwch a gawn oddi wrthyt ti;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

20.

Dduw pob gras a diddanwch,

diolchwn iti am E.,

ac am y lle a oedd iddo/i yng nghalonnau pawb ohonom.

Diolchwn am y cariad y cenhedlwyd ef/hi ynddo

ac am y gofal a’i hamgylchynai.

Wrth inni gofio amseroedd o ddagrau a chwerthin,

diolchwn iti am y cariad a ranasom o’i herwydd,

ac a adlewyrchai’r cariad hwnnw a dywelltaist ti arnom

yn dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

21.

Dduw ein Tad,

yr wyt yn gwybod ein meddyliau ac yn rhannu ein gofidiau.

Tywys ni o’n trallod

i ddiddanwch cysurus dy gariad.

Pan anghofiwn beth yw hapusrwydd,

adfer ynom ffynhonnau gloywon o obaith.

Pan amddifader ni o dangnefedd,

adnewydda ein calonnau a thawela ein hofnau.

A phan ddeuwn yn y diwedd at ein hymadael olaf,

dwg ni adref atat ti am byth

i gyflawnder teulu Duw;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

22.

Dad nefol, ein cydymaith,

y mae dy gariad bob amser gyda ni,

hyd yn oed pan awn i mewn i ddirgelwch tywyll dioddefaint a cholled;

trown atat yn awr mewn ffydd,

a gofynnwn iti roddi i’th annwyl blentyn E.

nodded dy gariad.

Cysura ni, O Dad,

a thywys ef/hi i lawenydd a chyflawnder yn dy deyrnas nefol,

trwy nerth y cariad a ddatguddiwyd inni yn dy Fab,

ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.

Tudalen 41