Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

Oni weinyddir y Cymun:

Gweddïwn yn hyderus ar y Tad:

Ein Tad yn y nefoedd ...

Neu

Fel y dysgodd ein Hiachawdwr ni, gweddïwn yn hyderus:

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd ...

Y CYFLWYNIANT

Hollalluog Dduw,

yn dy gariad mawr

lluniaist ni â’th ddwylo

ac anadlu inni fywyd trwy dy Ysbryd.

Er inni fod yn bobl wrthryfelgar,

ni chefnaist arnom yn ein pechod.

O’th dyner drugaredd

anfonaist dy Fab

i’n hadfer ar dy ddelw.

Mewn ufudd-dod i’th ewyllys

rhoes ef ei fywyd drosom,

a dwyn yn ei gorff ein pechodau ar y groes.

Trwy dy allu nerthol

cyfodaist ef o’r bedd

a’i ddyrchafu i orsedd y gogoniant.

Gan ymlawenhau yn ei fuddugoliaeth

a chan ymddiried yn dy addewid

i fywhau pawb sy’n troi at Grist,

cyflwynwn E. i’th drugaredd,

ac ymunwn â’th holl bobl ffyddlon

ac â holl gwmpeini’r nef

yn yr un gân dragwyddol o foliant:

Y fendith a’r anrhydedd,

y gogoniant a’r gallu

a fo i ti, yn oes oesoedd. Amen.

YR ANFON ALLAN

Y Tangnefedd

Dywedodd Iesu: Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i

fy hun. Nid fel y mae’r byd yn rhoi yr wyf fi’n rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch

calon, a pheidiwch ag ofni. Tangnefedd y Crist atgyfodedig a fyddo bob amser gyda chwi:

A hefyd gyda thi.

Tudalen 51