Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

4. BABAN

I ti, addfwyn Dad,

yr ydym yn wylaidd yn ymddiried y plentyn hwn

sydd mor werthfawr yn dy olwg.

Cymer ef/hi yn dy freichiau

a chroesawa ef/hi i’th ŵydd,

lle nad oes na galar na phoen,

ond cyflawnder tangnefedd a llawenydd gyda thi

byth bythoedd. Amen.

5. GENEDIGAETH FARW

Dduw pob trugaredd, ni fyddi’n gwneud dim yn ofer

ac yr wyt yn caru popeth a greaist;

cyflwynwn iti E., plentyn E. ac E.,

y tywalltasant arno/i y fath gariad mawr,

ac yr oeddynt yn llawn gobeithion a breuddwydion am ei d/ddyfodol.

Yr oeddem wedi hiraethu am gael ei g/chroesawu i’n plith;

dyro inni sicrwydd yr amgylchynir ef/hi yn awr

ym mreichiau dy gariad,

a’i f/bod yn rhannu bywyd atgyfodiad

dy Fab, Iesu Grist. Amen.

6. ERTHYLIAD NATURIOL

Dduw pob trugaredd, ni wnei ddim yn ofer

ac yr wyt yn caru popeth a greaist;

cyflwynwn iti E., plentyn E. ac E.,

y tywalltasant arno/i y fath gariad mawr,

ac yr oeddynt yn llawn gobeithion a breuddwydion am ei d/ddyfodol.

Dyro iddynt sicrwydd bod eu plentyn,

er yn anweladwy i ni, yn weladwy ac yn adnabyddus i ti,

ac y bydd yn rhannu bywyd atgyfodedig dy Fab, Iesu Grist. Amen.

Y TRADDODIANT

Defnyddia’r gweinidog un o’r ffurfiau canlynol ar y Traddodiant:

Wrth gladdu corff:

Yn ffydd Crist a chan gredu bod E. yn nwylo Duw,

yr ydym yn traddodi ei g/chorff i’r ddaear:

pridd i’r pridd, lludw i’r lludw, llwch i’r llwch:

mewn gwir a diogel obaith o’r atgyfodiad i’r bywyd tragwyddol

trwy ein Harglwydd Iesu Grist,

a newidia ein cyrff eiddil ni

i fod yn unffurf â’i gorff gogoneddus ef,

a fu farw, a gladdwyd, ac a gyfododd drachefn er ein mwyn.

Iddo ef y bo’r gogoniant am byth. Amen.

Tudalen 43