Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

60.

Gyfeillion annwyl, y mae ein Harglwydd yn dod i gyfodi’r meirw

ac y mae’n ein cysuro â diddanwch ei gariad.

Molwn yr Arglwydd Iesu Grist.

Air Duw, creawdwr y ddaear y mae E. yn awr yn dychwelyd iddi,

yn ei f/bedydd gelwaist ef/hi i’r bywyd tragwyddol

i foliannu dy Dad am byth:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

Fab Duw, yr wyt yn cyfodi’r cyfiawn

ac yn eu gwisgo â gogoniant dy deyrnas:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

Arglwydd croeshoeliedig, yr wyt yn amddiffyn enaid E.

trwy allu dy groes,

ac ar ddydd dy ddyfodiad

byddi’n dangos trugaredd at bawb o’r ffyddloniaid ymadawedig:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

Farnwr y byw a’r meirw,

wrth dy lais bydd y beddau’n agor

a phawb o’r cyfiawn sy’n huno yn dy dangnefedd

yn cyfodi i ganu gogoniant Duw:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

Pob moliant i ti, Iesu ein Gwaredwr,

y mae angau yn dy ddwylo

ac arnat ti yn unig y dibynna pob un byw:

Arglwydd, trugarha. Arglwydd, trugarha.

61.

Arglwydd Iesu Grist, gwyddost feddyliau ein calonnau,

yr wyt yn rhannu ein llawenydd a’n gofidiau;

dyfnha ein ffydd a chynnal ni yn yr awr dywyll hon.

Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.

Arglwydd, cysuraist Martha a Mair yn eu trallod;

tyrd atom ni sy’n galaru am E.,

a sych ymaith ddagrau’r rhai sy’n wylo.

Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.

Arglwydd, wylaist wrth fedd Lasarus, dy ffrind,

cysura ninnau yn ein gofid.

Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.

(Arglwydd, golchwyd dy blentyn E. yn nyfroedd y bedydd,

a’i eneinio â’r Ysbryd Glân;

dyro iddo/i gymdeithas â’th holl saint.

Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.)

(Arglwydd, porthaist E. â’th Gorff a’th Waed;

dyro iddo/i le wrth y bwrdd yn dy deyrnas.

Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.)

(Arglwydd, arweiniodd dy ddiacon/offeiriad/esgob E.

dy bobl mewn gweddi ac addoliad;

bydded iddo/i yn awr gyfranogi o addoliad y nefoedd.

Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.)

Arglwydd, bydded ein ffydd yn ddiddanwch inni,

a bywyd tragwyddol yn obaith.

Arglwydd, yn dy drugaredd, gwrando ein gweddi.

Tudalen 68