Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

I’w defnyddio ar ôl Salm 32:

Arglwydd, ein cysgod mewn cyfyngder,

dygi ein heuogrwydd i gof.

Y mae dy law yn drwm arnom;

y mae ein tafodau yn sych

ac yr ydym yn cyffesu yn agored ein heuogrwydd.

Cofleidia ni â’th drugaredd.

Dysg ni i ymddiried ynot,

a dwg ni yn y diwedd

i lawenhau yn dy wyddfod am byth. Amen.

I’w defnyddio ar ôl Salm 38:

Arglwydd, trugarha

wrth y rhai sy’n galaru drwy’r dydd,

y rhai a barlyswyd ac a lethwyd gan ofid

ac a lanwyd â phoen trallod,

y mae eu nerth yn darfod

a’u cyfeillion a’u cymdogion wedi pellhau.

Gwyddost ti am ein holl ocheneidiau a dyheadau:

bydd yn agos atom a dysg ni i obeithio ynot ti;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

I’w defnyddio ar ôl Salm 39:

Arglwydd Iesu Grist, Fab y Duw byw,

caniatâ inni dy geisio byth

ac ymborthi arnat gydol ein dyddiau,

canys yr wyt ti ym mhopeth

gyda phopeth a thrwy bopeth,

yn awr a hyd byth. Amen.

I’w defnyddio ar ôl Salm 90:

Dysg ni, Arglwydd, i gyfrif ein dyddiau;

i weld rhychwant ein heinioes yng ngoleuni tragwyddoldeb.

Datguddia inni dy ysblander.

Dyro inni ddoethineb a gras i adnabod dy gariad

ac i ymlawenhau yn dy faddeuant a’th fywyd;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

I’w defnyddio ar ôl Salm 116:

Arglwydd bywyd,

yr ydym yn rhodio trwy dragwyddoldeb yn dy ŵydd.

Arglwydd marwolaeth,

yr ydym yn galw arnat mewn gofid a galar:

ac yr wyt yn ein clywed ac yn ein hachub.

Gwylia drosom wrth inni alaru am farw dy was/wasanaethferch,

a oedd yn werthfawr yn dy olwg,

a chadw ni’n ffyddlon i’n haddunedau i ti. Amen.

Tudalen 74