Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

GWEDDÏAU YMDDIRIED A CHYFLWYNO

64.

Arglwydd Iesu, ein prynwr,

buost farw yn ewyllysgar,

fel yr achubid pawb o farwolaeth i fywyd.

Trwy farw agoraist byrth bywyd

i bawb sy’n credu ynot.

Gan hynny, cyflwynwn E. i’th freichiau trugarog,

gan gredu y caiff, a’i b/phechodau wedi eu maddau,

le o lawenydd a goleuni a thangnefedd

yn nheyrnas dy ogoniant am byth. Amen.

65.

Y mae E. wedi huno yn nhangnefedd Crist.

Cyflwynwn ef/hi, mewn ffydd a gobaith yn y bywyd tragwyddol,

i gariad a thrugaredd ein Tad

ac amgylchynwn ef/hi â’n cariad a’n gweddïau.

(Yn ei f/bedydd, fe’i gwnaed trwy fabwysiad yn blentyn Duw.)

(Yn y Cymun, fe’i cynhaliwyd ac fe’i porthwyd.

Y mae Duw yn awr yn ei g/chroesawu at ei fwrdd yn y nefoedd

i rannu bywyd tragwyddol â’i holl saint.) Amen.

66.

Dad nefol,

dy Fab Iesu Grist yw’r cyntafanedig o blith y meirw.

Yr ydym yn credu y bydd ef yn cyfodi cyrff ei bobl ffyddlon

i fod yn debyg i’w gorff gogoneddus ef.

Cyflwynwn E. i’th drugaredd

a gweddïwn ar iti, wrth ei g/chymryd atat dy hun,

ein bendithio ninnau â thangnefedd;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd,

a fu farw ac a gyfododd drachefn i’n hachub,

ac sy’n awr yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân

mewn gogoniant am byth. Amen.

67.

Dad nefol,

rhoddaist inni sicrwydd

y caiff pawb sy’n gobeithio yn dy Fab

ac yn credu ynddo

fywyd tragwyddol.

Gan ymddiried yn dy ffyddlondeb,

cyflwynwn E. i’th drugaredd,

gan ddisgwyl y dydd mawr hwnnw

pan gyfodi ni gydag ef/hi i fywyd mewn buddugoliaeth

ac y safwn ger dy fron,

a’th holl greadigaeth wedi ei gwneud yn newydd ynddo ef,

er gogoniant dy deyrnas nefol. Amen.

Tudalen 70