Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

COLECTAU AR GYFER GWASANAETHAU ANGLADD A GWASANAETHAU COFFA

10.

Dad trugarog,

clyw ein gweddïau a chysura ni;

adnewydda ein gobaith yn dy Fab,

a gyfodaist o blith y meirw;

cryfha ein ffydd

y caiff (E. a phawb) pawb a fu farw yng nghariad Crist

rannu ei atgyfodiad ef

sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,

yn awr a byth. Amen.

11.

Dduw tragwyddol, ein crëwr a’n prynwr,

caniatâ i ni gyda (E. a) phawb o’r ffyddloniaid ymadawedig

ddiogel fuddiannau dioddefaint achubol dy Fab

a’i atgyfodiad gogoneddus;

fel, yn y dydd olaf,

pan gesgli ynghyd bob peth yng Nghrist,

y caffom fwynhau gyda hwy gyflawnder dy addewidion;

trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd,

sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi,

yn undod yr Ysbryd Glân,

yn un Duw, yn awr a hyd byth. Amen.

DIOLCH AM FYWYD YR YMADAWEDIG

12.

Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist,

a’n bendithiodd â’r rhodd o fywyd ar y ddaear hon

ac a roddodd i’n brawd/chwaer E.

rychwant ei f/blynyddoedd a doniau ei g/chymeriad.

O Dduw ein Tad, diolchwn iti yn awr am ei f/bywyd,

am bob atgof o gariad a llawenydd,

am bob gweithred dda a wnaeth

ac am bob galar a rannodd â ni.

Diolchwn iti am ei f/bywyd ac am ei f/marwolaeth,

diolchwn iti am yr orffwysfa yng Nghrist y mae’n awr yn ei mwynhau,

diolchwn iti am ei r/rhoi hi/ef inni,

diolchwn iti am y gogoniant y byddwn yn ei rannu â’n gilydd.

Clyw ein gweddïau trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

13.

Drugarog Dad, Arglwydd pob bywyd,

molwn di am iti ein llunio ar dy ddelw

i adlewyrchu dy wirionedd a’th oleuni.

Diolchwn iti am fywyd dy blentyn E.,

am y cariad a dderbyniodd gennyt

ac a ddangosodd yn ein plith.

Uwchlaw pob dim, llawenhawn yn dy addewid rasol

Tudalen 55