Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

na’u troi yn d’erbyn.

Pan fo galar fel pe bai’n ddiderfyn,

tywys hwy fesul cam

ar hyd dy ffordd di,

ffordd marwolaeth ac atgyfodiad

yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

27.

O Dad, daeth marwolaeth E. â gwacter i’n bywydau.

Gwahanwyd ni oddi wrtho/i

ac yr ydym yn teimlo’n friwedig ac mewn dryswch.

Dyro inni hyder ei f/bod yn ddiogel

a bod ei f/bywyd yn gyflawn gyda thi,

a dwg ni ynghyd yn y diwedd

i lawnder a chyflawnder dy bresenoldeb di yn y nefoedd,

lle y mae dy saint a’th engyl yn dy fwynhau byth bythoedd. Amen.

28.

Dduw pob trugaredd,

yn dy gariad rhoddaist inni dy Fab

i orchfygu marwolaeth

ac i adfer bywyd tragwyddol i’th bobl.

Cysura dy weision yn eu galar,

a chryfha ein ffydd a’n gobaith yn dy Fab,

ein Gwaredwr Iesu Grist. Amen.

29.

Drugarocaf Dduw,

y mae dy ddoethineb uwchlaw ein deall,

amgylchyna deulu E. â’th gariad,

fel na lether mohonynt gan eu colled,

ond y caffont hyder yn dy drugaredd,

a nerth i wynebu’r dyddiau sy’n dod.

Gofynnwn hyn trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

30.

Dad pob trugaredd a Duw pob diddanwch,

yr wyt yn ein hymlid â chariad diflino

ac yn gwasgaru cysgod angau â gwawr ddisglair bywyd.

(Dyro ddewrder i’r teulu hwn yn eu colled a’u gofid.

Bydd iddynt, O Arglwydd,yn lloches a nerth,

dyro iddynt sicrwydd o’th gariad gwastadol

a chyfod hwy o ddyfnderoedd eu galar

i dangnefedd a goleuni dy bresenoldeb.)

Trwy farw, y mae dy Fab, ein Harglwydd Iesu Grist,

wedi dinistrio marwolaeth,

a, thrwy atgyfodi, y mae wedi adfer bywyd i ni.

Y mae dy Ysbryd Glân, ein diddanydd,

yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau.

Tyrd at dy bobl, atgoffa hwy o’th bresenoldeb tragwyddol

a dyro iddynt dy gysur a’th nerth. Amen.

Tudalen 59