Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

MEWN GOFID, EUOGRWYDD AC EDIFEIRWCH

44.

Dduw maddeugar,

yn wyneb angau darganfyddwn

gynifer o bethau sydd eto heb eu gwneud,

ac y gellid bod wedi eu gwneud.

Achub gam ein methiannau.

Rhwyma glwyfau camgymeriadau’r gorffennol.

Trawsffurfia ein heuogrwydd yn gariad gweithredol

a thrwy dy faddeuant iachâ ni.

Gofynnwn hyn yn enw Iesu. Amen.

GWEDDIAU AM BARODRWYDD I FYW YNG NGOLEUNI TRAGWYDDOLDEB

45.

O Arglwydd, cynnal ni

trwy gydol dydd ein bywyd blin,

hyd onid estynno’r cysgodion a dyfod yr hwyr,

distewi o ddwndwr byd,

tawelu o dwymyn bywyd

a gorffen ein gwaith.

Yna, Arglwydd, yn dy drugaredd dyro inni breswylfa ddiogel,

gorffwysfa sanctaidd a thangnefedd yn y diwedd;

trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

46.

Dyro inni, Arglwydd,

ddoethineb a gras

i iawn ddefnyddio’r amser sy’n weddill inni ar y ddaear.

Tywys ni i edifarhau am ein pechodau,

am y drwg a wnaethom

a’r da nas gwnaethom;

a nertha ni i ddilyn yn ôl traed dy Fab,

ar y ffordd sy’n arwain i gyflawnder bywyd tragwyddol;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

47.

Dduw ein Tad,

diolchwn iti am anfon dy Fab Iesu Grist

i farw drosom a chyfodi drachefn.

Cyhoedda ei groes nad oes derfyn i’th gariad;

cyhoedda ei atgyfodiad dranc angau, ein gelyn olaf.

Trwy ei fuddugoliaeth cawn sicrwydd

na chefni di arnom na’n gadael byth;

ac na all nac einioes nac angau,

na phethau presennol na phethau i ddyfod,

ein gwahanu ni oddi wrth dy gariad

yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.Amen.

Tudalen 63