Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

56.

Arglwydd Dduw tragwyddol, y mae pob enaid byw yn dy law:

llewyrcha, gweddïwn arnat,

ar dy Eglwys gyfan, ym mharadwys ac ar y ddaear,

belydrau disglair dy oleuni a’th ddiddanwch nefol;

a chaniatâ fod i ni,

gan ddilyn esiampl dda

y rhai a’th garodd ac a’th wasanaethodd yma

ac sy’n awr yn gorffwyso,

ddyfod yn y diwedd gyda hwy

i gyflawnder dy lawenydd tragwyddol;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

LITANÏAU A GWEDDÏAU YMATEBOL

57.

Mewn tangnefedd gweddïwn ar yr Arglwydd.

Iesu, fara o’r nef,

yr wyt yn llenwi’r newynog â phethau da:

dyro inni ran gyda phawb o’r ffyddloniaid ymadawedig

yng ngwledd dy deyrnas.

Clyw ni, Arglwydd atgyfodedig,

ein hatgyfodiad a’n bywyd.

Iesu, goleuni’r byd,

rhoddaist i’r dyn a anwyd yn ddall y rhodd o olwg

ac agoraist lygaid ei ffydd :

dwg bawb sydd mewn tywyllwch i oleuni dy ogoniant tragwyddol.

Clyw ni, Arglwydd atgyfodedig,

ein hatgyfodiad a’n bywyd.

Iesu, Fab y Duw byw,

gwysiaist dy ffrind Lasarus o farwolaeth i fywyd:

cyfod ni yn y diwedd i lawnder tragwyddol bywyd dy atgyfodiad.

Clyw ni, Arglwydd atgyfodedig,

ein hatgyfodiad a’n bywyd.

Iesu, Iachawdwr croeshoeliedig,

wrth farw ymddiriedaist y naill i’r llall

Fair dy fam ac Ioan y disgybl annwyl:

cynnal a diddana bawb sy’n galaru.

Clyw ni, Arglwydd atgyfodedig,

ein hatgyfodiad a’n bywyd.

Iesu, ein ffordd a’n gwirionedd a’n bywyd,

dygaist dy ddisgybl Thomas o amheuaeth i ffydd:

datguddia ffydd yr atgyfodiad i’r rhai sy’n amau ac sydd ar goll.

Clyw ni, Arglwydd atgyfodedig,

ein hatgyfodiad a’n bywyd.

Tudalen 66