Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

GWEDDÏAU DROS Y RHAI SY’N GALARU

22.

Dduw pob trugaredd,

a ninnau’n galaru am farw E.,

ac yn diolch iti am ei f/bywyd,

yr ydym hefyd yn cofio amseroedd

pan oedd yn anodd inni ddeall

a maddau, a derbyn maddeuant.

Iachâ ein hatgofion o ddolur a methiant,

a dwg ni i faddeuant a bywyd

yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

23.

Arglwydd Iesu Grist,

cysuraist dy ddisgyblion pan oeddit yn mynd i farw:

tawela yn awr ein calonnau trallodus

ac ymlid ymaith ein hofnau.

Ti yw’r ffordd at y Tad:

cynorthwya ni i’th ddilyn.

Ti yw’r gwirionedd:

dwg ni i’th adnabod.

Ti yw’r bywyd:

dyro inni’r bywyd hwnnw,

byw gyda thi yn awr a byth. Amen.

24.

O Dduw, a’n dug ni i’n genedigaeth,

ac y byddwn farw yn dy freichiau,

cynnal a chysura ni

yn ein galar a’n braw:

cofleidia ni â’th gariad,

dyro inni obaith yn ein dryswch

a gras i ildio i fywyd newydd;

trwy Iesu Grist. Amen.

25.

O Dad, yr wyt yn adnabod ein calonnau ac yn rhannu ein gofidiau.

Cawsom ein brifo o’n gwahanu oddi wrth E. yr oeddem yn ei g/charu:

a ninnau’n ddicllon oherwydd ein colled,

ac yn dyheu am eiriau o gysur,

ond yn ei chael hi’n anodd eu clywed,

tro ein galar yn gywirach buchedd,

a’n cystudd yn obaith cadarn

yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

26.

Dduw grasol,

amgylchyna ni a phawb sy’n galaru y dydd hwn

â’th dosturi gwastadol.

Na ad i alar lethu dy blant

Tudalen 58