Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

Teilwng wyt ti, yr Oen a laddwyd:

ac a brynaist i Dduw â’th waed:

rai o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl.

Gwnaethost hwy yn urdd frenhinol

i sefyll gerbron ein Duw ac i’w wasanaethu:

ac fe deyrnasant gyda thi ar y ddaear.

Iddo ef sy’n eistedd ar yr orsedd ac i’r Oen:

y byddo’r moliant a’r gogoniant a’r gallu

byth bythoedd. Amen.

Neu

Dad hollalluog, rhoddwn i ti ddiolch a moliant

am iti anfon dy Fab i farw, a’i atgyfodi o blith y meirw.

Molwn di yn llawn hyder dy fod yn achub dy holl bobl,

y byw a’r meirw.

Arglwydd, clyw ni: yn rasol, clyw ni, O Arglwydd.

Diolchwn iti am E.,

yr addawyd iddo/i yn ei f/bedydd fywyd tragwyddol

ac sydd yn awr yng nghwmni’r saint.

Arglwydd, clyw ni: yn rasol, clyw ni, O Arglwydd.

Diolchwn iti am ein brawd/chwaer, a fu’n cyfranogi o fara’r bywyd,

rhagflas o’r wledd dragwyddol yn y nefoedd.

Arglwydd, clyw ni: yn rasol, clyw ni, O Arglwydd.

Diolchwn iti am ein holl berthnasau a chyfeillion

ac am bawb a fu’n gymorth inni,

sy’n mwynhau’r wobr am eu daioni.

Arglwydd, clyw ni: yn rasol, clyw ni, O Arglwydd.

Gweddïwn ar i deulu a chyfeillion ein brawd/chwaer E.

dderbyn yn eu galar ddiddanwch yr Arglwydd,

a wylodd ar farwolaeth Lasarus, ei ffrind.

Arglwydd, clyw ni: yn rasol, clyw ni, O Arglwydd.

Gweddïwn dros bawb ohonom sydd wedi ymgynnull yma

i addoli mewn ffydd,

ar inni gael ein cynnull ynghyd drachefn yn nheyrnas Dduw.

Arglwydd, clyw ni: yn rasol, clyw ni, O Arglwydd.

Neu

Arglwydd Dduw, creawdwr pob peth,

gwnaethost ni yn greaduriaid y ddaear hon,

ond addewaist inni hefyd ran yn y bywyd tragwyddol.

Yn unol â’th addewidion,

bydded i bawb a fu farw yn nhangnefedd Crist

gael cyfranogi gyda’th saint yn llawenydd y nefoedd,

lle nad oes na galar na phoen

ond bywyd hyd byth.

Alelwia ! Amen.

Tudalen 50