Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Gwasanaethau Angladd

52.

Dwg ni, O Arglwydd ein Duw, yn ein deffro olaf,

at dŷ a phorth y nefoedd,

i fynd drwy’r porth hwnnw a byw yn y tŷ

lle nad oes na thywyllwch na gor-ddisgleirdeb

ond un goleuni di-dor;

dim sŵn na distawrwydd,

ond un miwsig di-dor;

dim ofnau na gobeithion,

ond un meddiant di-dor;

dim diwedd na dechrau,

ond un tragwyddoldeb di-dor;

yn nhrigfannau dy ogoniant a’th arglwyddiaeth

byth heb ddiwedd. Amen.

53.

Dad annwyl pob bywyd,

fe’n lluniaist i ti dy hunan,

a diorffwys ein calonnau nes gorffwysant ynot ti.

Caniatâ inni yn y fath fodd dy garu a’th wasanaethu,

a byw bob dydd er dy fwyn,

fel y caffom, yn y diwedd,

estyn atat a gwybod y cerir ni,

agor ein calonnau iti a gwybod y maddeuir inni;

ac, wedi ein caru a’n derbyn felly, orffwyso ynot;

trwy gariad ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.

54.

Dduw tragwyddol,

yr wyt yn rhoi goleuni i’r rhai sy’n eistedd mewn tywyllwch

a chysgod angau;

llewyrched dy oleuni ar y rhai sy’n galaru

fel y llawenychont yn dy ddiddanwch bendigaid

a byw yng ngoleuni atgyfodiad

Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

55.

Dad pawb oll,

yr erys dy saint,

trwy dy drugaredd a’th ras,

mewn goleuni a thangnefedd tragwyddol:

cofiwn yn ddiolchgar

am y rhai hynny a garwn ond nas gwelwn mwyach;

a gweddïwn ar i’th berffaith ewyllys di

gael ei chyflawni ynddynt;

trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Tudalen 65