06.07.2014 Views

Zbornik Mednarodnega literarnega srečanja Vilenica 2004 - Ljudmila

Zbornik Mednarodnega literarnega srečanja Vilenica 2004 - Ljudmila

Zbornik Mednarodnega literarnega srečanja Vilenica 2004 - Ljudmila

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Mae’r cyfrifiadur hefyd yn fardd

Caewn y drws. Boddwn bob swn. Mae hon yn ddefod. Agorwn gaead pistyll

y trydan.

Sgwrsiwn.

Dyma ymddiddan trwy wydr. Dyma ymgom mewn geiriau bach neon byw,

pryfed tân yng ngardd ffurfiol y sgrîn, heb ddim o gyffwrdd amrwd ansicr

yr un llaw ar ddarfodedig dudalen.

Sgwrsiwn.

Nid yw’r cyfrifiadur yma’n fawr gwahanol i’r rheini all reoli calonnau a

gweithio gwyddorau bywyd.

Ac nid yw’r cyfrifiadur, yn ei wefrau a’i olau, fawr ddim yn wahanol

i wefrau a golau fy nghalon i.

Sgwrsiwn.

Rydym mewn gwlad dramor. Dysgaf fy iaith iddo.

A daw atebion pefr, fel petai o du arall Ewrop, yn gwifreiddio yn wefr a

golau i gyd. Dim ond y cyfrifiadur a fi sy’n deall.

Sgwrsiwn.

Mererid Puw Davies

A’m hiaith fy hun, fy nhestun cyfarwydd: fe’u gwelaf yn newid eu gwedd -

yn arwyneb arian, yn flodeuged amryliw, yn orymdaith syfrdanol, yn

llateion llachar, yn ddisgleiriach na dim a welwyd erioed.

Sgwrsiwn. Mae’r cyfrifiadur yn fardd.

443

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!